Ysgolion
Cyswllt rhwng Ysgolion
Rydym yn bwriadu sefydlu cysylltiadau rhwng ysgolion yn Ynys Môn a’r Gambia, er mwyn caniatáu i blant yng Nghymru a’r Gambia ddysgu am eu gwlad, diwylliant, bywyd ac addysg ei gilydd, gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth a chyfeillgarwch ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cychwyn y broses hon, trefnwyd ymweliadau ag ysgolion lleol, gan roi blas bach i’r plant o fywyd mewn pentref bychan anghysbell yn y Gambia.
Ysgolion y Gambia
Ysgol Gynradd Kani Kunda, Ysgol Uwchradd Iau Pakalinding, Ysgol Uwchradd Hŷn Tahir
Ysgolion Cymru
Ysgol Gynradd Amlwch, Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Ysgol Gynradd Rhosybol,Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch.
Bydd gan benaethiaid yr ysgolion yn y Gambia ac yn Amlwch gyswllt uniongyrchol trwy’r dudalen hon. Y nod yw defnyddio lluniau a thestun ynglŷn â bywyd beunyddiol, prosiectau a datblygiadau yn yr ysgolion er mwyn gallu dod i ddeall Cymru a’r Gambia yn well. Wrth i amser fynd yn ei flaen, y gobaith yw y bydd plant yn gwneud ffrindiau ar gyfer y dyfodol, trwy eu hysgolion. Wrth i gysylltiadau’r rhyngrwyd ddod yn gyflymach yn y Gambia, bydd yr elusen yn darparu gwe-gamerâu ar gyfer yr ysgolion, er mwyn hwyluso cyswllt ac addysg “wyneb yn wyneb” – gwersi byw ar draws y milltiroedd.



