Dyfrdwll a Pwmp Solar
Hyd fis Ionawr 2010, cyflenwad cyfyngedig o ddŵr glân oedd gan y Clinig a oedd yn gwasanaethu’r pentref. Dim ond am 2 awr y dydd yr oedd dŵr ar gael – un awr yn y bore ac awr arall gyda’r nos. O ganlyniad, roedd yn rhaid cadw dŵr ar gyfer glanhau clwyfau, a golchi cleifion, gan gynnwys plant newydd-anedig, mewn bwcedi agored. Ym mis Ionawr 2010, defnyddiwyd arian yr Elusen i ddrilio dyfrdwll. Defnyddir pwmp solar i bwmpio’r dŵr. Ychydig iawn o adnoddau naturiol sydd yn y Gambia, ond yr hyn sydd ganddynt yw digonedd o haul. O ganlyniad, nid yw pwmpio’r dŵr yn dreth ar adnoddau ariannol prin y clinig.
Driliwyd y dyfrdwll i ddyfnder o 74 metr, a bellach mae 18,000 o litrau o ddŵr glan, ac y gellir ei yfed, ar gael i’r clinig bob dydd – cyflenwad parhaus penodedig o ddŵr glân.
Rhoddwyd cap ar y dyfrdwll, a bellach mae dŵr yn cael ei bwmpio i fyny i danciau storio, ac wedyn trwy bibellau tanddaearol yn uniongyrchol i’r clinig.
Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau naturiol glân ac ecogyfeillgar, pan fo hynny’n bosibl.