Canolfan Sgiliau
Mae adeilad gwag a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan asynnod a da byw wedi ei adnewyddu’n llwyr gan yr elusen, ac mae paneli solar wedi eu gosod i ddarparu cyflenwad trydan.
Defnyddir yr adeilad, a elwir bellach yn Ganolfan Sgiliau, ar gyfer cynnal Dosbarthiadau Llythrennedd i Oedolion a Chydweithfa Wnïo, a chaiff plant ysgol wneud eu gwaith ysgol yno hefyd gyda’r nos.
Cynhyrchwyd y dodrefn sydd yn y Ganolfan Sgiliau gan saer coed o’r pentref, trwy ddefnyddio deunyddiau a brynwyd gan yr elusen. Darparwyd y peiriannau gwnïo ar gyfer y gydweithfa wnïo, a’r deunyddiau addysgol ar gyfer y dosbarthiadau llythrennedd, gan yr elusen.
Dosbarthiadau Llythrennedd
Cyn i ni ddechrau ar ein gwaith, nid oedd 70% o fenywod y pentref yn gallu darllen. Trefnwyd Dosbarth Llythrennedd i Oedolion ar eu cais hwy eu hunain. Mae’r dosbarthiadau wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae cyfraddau llythrennedd wedi gwella, gyda 60 o fenywod yn dysgu darllen o fewn blwyddyn i sefydlu’r dosbarthiadau.
Mae’r dosbarthiadau’n cael eu cynnal yn barhaus.
Y Gydweithfa Wnïo ayb.
Yn ogystal â thalu am addysg y plant, mae ein cynllun nawdd addysgol hefyd yn golygu darparu dwy wisg ysgol a phâr o esgidiau i bob plentyn. Yn hytrach na rhoi arian i brynu gwisgoedd ysgol, mae’r elusen wedi sefydlu cydweithfa wnïo. Mae hyn yn golygu bod menywod y pentref yn cynhyrchu’r gwisgoedd ysgol, gan ddefnyddio peiriannau gwnïo a ddarparwyd gan Gyfeillion Sankwia. Mae’r elusen yn prynu’r gwisgoedd ysgol hyn, ac fe’u rhoddir i’r plant. Trwy wneud hyn, rydym yn cyflawni nifer o amcanion – mae menywod yn dysgu sut i wnïo trwy ddefnyddio peiriannau gwnïo troedlath, mae’r arian yn aros yn y gymuned leol, ac mae’r menywod yn cael cyflog bychan i ychwanegu at incwm y teulu. Mae’r gydweithfa wedi datblygu – cynhyrchir dillad i’w gwerthu yn y marchnadoedd lleol bellach, ac mae busnes clymu a lliwio hefyd wedi ei sefydlu. Mae’r gydweithfa’n cael ei rheoli gan bwyllgor etholedig.
Y gydweithfa sy’n gyfrifol am yr ambiwlans a ddarparwyd, a hwy sy’n cynnal a chadw ac atgyweirio’r cerbyd hwnnw.



