Amdanom Ni
Elusen a ffurfiwyd ar ôl gefeillio Amlwch a Sankwia yn ffurfiol yw Cyfeillion Sankwia.
Ble mae Amlwch?
Mae Amlwch yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn.
Ble mae Sankwia?
Mae Sankwia yn Rhanbarth Rhan Isaf yr Afon, Gorllewin Jarra, yn y Gambia, gorllewin Affrica.
Mae tua 2,500 o bobl yn byw yn y ddwy gymuned. Mae Amlwch a Sankwia mewn ardaloedd gwledig lle mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant pwysig. Defaid a gwartheg sy’n cael eu ffermio yn Amlwch a’r cyffiniau gan fwyaf. Yn Sankwia, cnau daear a reis yw’r prif gnydau.
Ein Hamcanion: Hybu addysg, amddiffyn iechyd, a chynorthwyo i leddfu tlodi ymhlith pobl y Gambia, a thrigolion pentref Sankwia a’r ardaloedd cyfagos yn rhanbarth rhan isaf yr afon yn arbennig, ond nid yn unig.



