Cartref
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag un pentref anghysbell yn Affrica o’r enw SANKWIA gyda’r nod o gefnogi datblygiad cynaliadwy, lleihau tlodi ac afiechyd a gwella cyfleoedd addysgol.
Ffurfiwyd yr elusen yn 2006 ar ôl i Gyngor Tref Amlwch benderfynu gefeillio â SANKWIA. Mae’r elusen yn falch o’r ffaith nad oes ganddi gostau gweinyddol o gwbl. Mae’r gwaith i gyd yn cael ei wneud yn wirfoddol gan yr aelodau, a nhw sy’n talu’r costau argraffu a phostio, costau deunyddiau swyddfa ac ati. Mae pob ceiniog a roddir yn cael ei gwario er lles y pentref.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2008, derbyniodd Cyfeillion Sankwia Wobr Cymunedau Seren Aur y Cenhedloedd Unedig – y sefydliad cyntaf yn y byd i wneud hynny.
Cyflwynwyd y wobr gan Rhodri Morgan, sef Prif Weinidog Cymru ar y pryd, i gydnabod ein gwaith gyda phlant yn SANKWIA.
Meddai’r cyn Archesgob Desmond Tutu, wrth sôn am y Cynllun Seren Aur,
‘Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cymunedau Seren Aur a’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica yn ysbrydoliaeth wirioneddol. Dilynwch eich angerdd ac fe newidiwch chi’r byd!’
Cawn ein cefnogi gan Brosiect Cymunedau Seren Aur CGGC a
“Chynllun Cymru o Blaid Affrica” Llywodraeth Cynulliad Cymru.


